Cwestiynau Cyffredin am Brentisiaethau yng Nghymru
Mae prentisiaethau ar gael i bawb 16 oed a throsodd sy’n byw yng Nghymru. Gan nad oes unrhyw derfynau oedran uwch, mae rhai dysgwyr yn dewis astudio gyda ni i ddysgu sgiliau newydd yn eu rôl, neu i ychwanegu at eu gwybodaeth bresennol. Gallwch naill ai astudio fel rhan o’ch rôl bresennol, neu wneud cais am un o’n swyddi gwag.
Gellir astudio prentisiaethau ar lefelau lluosog, ar gyfer pobl mewn ystod enfawr o ddiwydiannau a sectorau. Mae ein pynciau’n amrywio o ofal plant, rheolaeth ac iechyd a gofal cymdeithasol i wasanaeth cwsmeriaid, marchnata digidol, gofal ceffylau ac anifeiliaid, gwallt a harddwch a mwy.
Ariennir prentisiaethau yn llawn gan Lywodraeth Cymru. Y newyddion da yw nad oes unrhyw gost i’r dysgwr na’r cyflogwr.
Pa mor hir mae’n ei gymryd i gwblhau prentisiaeth?
Bydd hyd yr amser i gwblhau prentisiaeth yn dibynnu ar y cymhwyster a’r lefel astudio a ddewiswch. Yn nodweddiadol gall prentisiaeth Lefel 2 gymryd rhwng 12 a 18 mis i’w chwblhau tra gall cymhwyster Lefel 3 ac uwch gymryd rhwng 18 a 24 mis fel arfer.
Mae cyfraddau cyflog gwahanol i brentisiaid yn dibynnu ar eich oedran, rôl, profiad a chymhwyster. Mae llawer o gyflogwyr yn cynnig cyflog cystadleuol. Os byddwch yn gwneud cais am un o’n swyddi gweigion byddwch yn cael eich talu o leiaf yr isafswm cyflog ar gyfer prentisiaid. Os ydych yn defnyddio prentisiaeth i uwchsgilio yn eich swydd bresennol, ni fydd eich cyflog yn cael ei effeithio.